Rhif y ddeiseb: P-06-1159

Teitl y ddeiseb: Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau anifeiliaid unwaith ac am byth yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb: Gofynnwch i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ac mae'n siŵr y byddent yn dweud wrthych eu bod yn credu y cafodd yr arfer o osod maglau ar gyfer anifeiliaid gwyllt ei wahardd yn yr oesoedd tywyll, ond yn anffodus mae'r gwir yn dra wahanol. Y gwir yw bod miloedd o anifeiliaid gwyllt a domestig yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Nghymru bob blwyddyn gan fod pobl yn defnyddio maglau.

Ar hyn o bryd, dim ond cod arfer gorau sydd gennym o ran eu defnydd, er bod y trapiau’n wirioneddol greulon. Nid oes lle innynt yn y Gymru fodern sy'n ystyriol o fywyd gwyllt.

Mae’r maglau yn wifrau tenau â dolen  sydd wedi'u dylunio i ddal ac achosi marwolaeth i’r dioddefwr yn y pen draw.  Mae’r ffordd y maen nhw wedi’u dylunio’n golygu eu bod yn aml iawn yn achosi i’r anifail sydd wedi'i ddal ynddynt golli aelodau neu dagu, a dioddef marwolaeth araf.

Mae awgrymu "Cod arfer gorau" yn gyfwerth â chael "Cod arfer gorau" ar gyfer defnyddio’r gadair drydan. Mae'r ddau yn greulon ac yn annynol yn eu hanfod.

Mae hefyd yn anodd iawn gorfodi'r rheoliadau ynglŷn â gosod maglau, sy’n digwydd yn bennaf ar dir preifat mewn lleoliadau anghysbell.

Ar adeg pan yr ydym yn ceisio ailgyflwyno llawer o rywogaethau a gollwyd ers amser maith (oherwydd erledigaeth a hela anwybodus yn y gorffennol), fel bele’r coed, gwiwerod coch, ceirw, dyfrgwn a hyd yn oed afancod, mae dyluniad anwahaniaethol y maglau yn golygu y bydd llawer o’r rhywogaethau gwarchodedig hyn yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn y pen draw.

Mae'r trapiau anwahaniaethol hyn hefyd yn fygythiad gwirioneddol ac annerbyniol i’n cathod a chŵn anwes teuluol. Gwnewch Gymru'n rhydd rhag maglau!


1.     Cefndir

Rheoleiddio’r defnydd o faglau

Mae defnyddio maglau yn golygu maglu a rhwystro anifail, yn aml cyn iddo gael ei ladd. Fe’i defnyddir yn bennaf yn y DU gan ffermwyr a rheolwyr tir eraill i reoli bywyd gwyllt fel llwynogod, cwningod, llygod mawr, gwiwerod llwyd a minc. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan rai i ddal bywyd gwyllt am ei ffwr.

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae’n drosedd: 

§    gosod magl gloi mewn ffordd y bwriadwyd iddi achosi anaf corfforol i unrhyw anifail gwyllt; 

§    lladd neu gymryd unrhyw anifail gwyllt gan ddefnyddio magl gloi; 

§    gosod magl (neu declyn arall) mewn modd y bwriadwyd iddo achosi anaf corfforol i unrhyw anifail a restrir yn Atodlen 6 i’r Ddeddf, er enghraifft moch daear; 

§    lladd neu gymryd unrhyw anifail a restrir yn Atodlen 6 i’r Ddeddf gan ddefnyddio magl;

§    gosod magl ac yna methu ag archwilio'r fagl honno (neu sicrhau bod rhywun arall yn ei harchwilio) o leiaf unwaith bob dydd; 

§    gosod unrhyw fath o fagl oni bai ei fod yn 'berson awdurdodedig' o dan y Ddeddf (hynny yw, perchennog neu feddiannydd y tir lle y gosodir y fagl, unrhyw berson a awdurdodir gan berchennog neu feddiannydd y tir, neu berson a awdurdodir yn ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal); a 

§    meddu ar fagl at ddibenion cyflawni unrhyw un o'r tramgwyddau uchod. 

Mae adran 11(4) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn rhoi pwerau cyfyngedig i Weinidogion Cymru ddiwygio’r modd y caiff defnydd o faglau ei reoleiddio ond dim ond at y diben o gydymffurfio â rhwymedigaeth ryngwladol. Byddai angen newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill. 

O dan Adran 9 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, mae’n rhaid i unigolion gymryd camau rhesymol i sicrhau bod anghenion lles pob anifail o dan eu rheolaeth yn cael eu diwallu, ac amddiffyn yr anifail rhag poen a dioddefaint.

Mae Adran 14 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru gyhoeddi codau ymarfer. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cod ar yr arfer orau wrth ddefnyddio maglau i reoli cadnoid (y sonnir amdano isod o dan ‘camau gweithredu Llywodraeth Cymru’).

Mae Deddf Ceirw 1991 yn gwahardd defnyddio maglau i ddal, lladd neu achosi niwed corfforol i geirw (Adran 4).

Mae Deddf Diogelu Mamaliaid Gwyllt 1996 yn gwahardd gweithredoedd treisgar gyda’r bwriad o beri dioddefaint diangen i famaliaid gwyllt (Adran 1).

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw reolaethau deddfwriaethol ar waith yng Nghymru’n benodol ar weithgynhyrchu a gwerthu maglau. 

Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020

Sefydlodd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020  reolau newydd ar gyfer rheoleiddio nwyddau ledled y DU. Sefydlodd y Ddeddf egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol a pheidio â gwahaniaethu, a'u hymgorffori yng nghyfraith y DU fel Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad.

O dan yr egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol, os yw nwydd yn cydymffurfio â'r rheolau sy'n ymwneud â'i werthu yn y rhan o'r DU lle cafodd ei gynhyrchu neu ei fewnforio iddi, gellir ei werthu mewn unrhyw ran arall o'r DU heb orfod bodloni’r  safonau yn y rhannau eraill hynny, hyd yn oed os ydyn nhw'n wahanol. 

O dan yr egwyddor peidio â gwahaniaethu, nid yw unrhyw reolau sy'n rheoleiddio sut y dylid gwerthu nwyddau mewn un rhan o'r DU sy'n gwahaniaethu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn erbyn darparwyr o rannau eraill o'r DU yn berthnasol yn gyffredinol.

Gall gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau anifeiliaid ddod o fewn cwmpas yr Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad yn Neddf Marchnad Fewnol 2020. Mae hyn yn golygu y gallai effaith a gorfodadwyedd cynnig y ddeiseb gael eu heffeithio'n ymarferol.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Y Rhaglen Lywodraethu

Mae’r Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys amcan i “wahardd y defnydd o faglau”.

Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Ym mis Ionawr 2021, dywedodd llythyr gan Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y pryd, mewn ymateb i ddeiseb flaenorol, y gallai’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru), a ddisgwylir yn ystod y Chweched Senedd, ddarparu’r pwerau deddfwriaethol i “reoleiddio pob agwedd ar werthu a defnyddio maglau yng Nghymru”. 

Cod ar yr arfer orau wrth ddefnyddio maglau i reoli cadnoid

Ar 25 Medi 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘God ar yr arfer orau wrth ddefnyddio maglau i reoli cadnoid‘ (cod statudol o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006). Mae’r cod yn crynhoi’r rhwymedigaethau cyfreithiol cyfredol ar y rheini sy’n defnyddio maglau ac yn amlinellu’r canllawiau y dylid eu dilyn. Mae’n canolbwyntio ar reoli llwynogod mewn ardaloedd gwledig.

Nid yw methu â chydymffurfio â chod o’r fath yn drosedd ynddo’i hun. Fodd bynnag, gall methiant i gydymffurfio â darpariaeth berthnasol cod ymarfer gael ei ddefnyddio mewn llys er mwyn sefydlu atebolrwydd.  

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar god 2015  yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) y Bumed Senedd y dylid cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar y cod (gweler ‘camau gweithredu Senedd Cymru’).

Cyfeiriodd adroddiad 2019 at ddigwyddiad rhanddeiliaid ym mis Chwefror 2018 ar y cod. Dywedodd y ‘daeth amrywiaeth eang o randdeiliaid i’r digwyddiad, gyda barn wahanol am ddefnyddio maglau’. Dywedodd:

Cadarnhaodd y rhanddeiliaid fod y Cod wedi cael ei ddosbarthu ar raddfa eang i aelodau oedd yn defnyddio maglau fel rhan o’u gwaith bob dydd. Roedd y rhanddeiliaid hyn yn credu bod eu haelodau yn cydymffurfio ag argymhellion y Cod. Ond ychydig o dystiolaeth ffeithiol sydd ar gael a chydnabyddir ei bod yn anodd mesur neu amlygu tystiolaeth o ymarfer da a chydymffurfiad â’r Cod gan fod gosod a defnyddio maglau’n digwydd ar dir preifat gan mwyaf.

Roedd y camau nesaf a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys bod angen i swyddogion Llywodraeth Cymru gwrdd â rhanddeiliaid eto ym mis Mai 2019. Yna byddai’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael ei defnyddio fel rhan o’r broses barhaus i benderfynu a yw cod 2015 ‘yn gweithio ai peidio ac a oes angen ystyried camau pellach, gan gynnwys opsiynau deddfwriaethol’. Nid yw Ymchwil y Senedd wedi gallu dod o hyd i unrhyw wybodaeth gyhoeddus am y digwyddiad arfaethedig ym mis Mai 2019.

Ymgynghoriad Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy

Roedd ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol Cymru yn 2017, Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, yn ceisio barn ar reoleiddio maglau (Pennod 10). Roedd yn cynnwys saith cynnig yn ymwneud ag agweddau ar ddylunio maglau ac ymarfer gweithredwyr maglau yn gofyn a ddylid cael pwerau pellach i wneud Gorchmynion i Weinidogion Cymru reoleiddio maglau.

Roedd cyfran fawr o’r ymatebwyr i ymgynghoriad 2017 yn gwrthwynebu defnyddio maglau yn gyffredinol ac yn teimlo y dylid eu gwahardd yn llwyr.  

Daeth Llywodraeth Cymru i’r casgliad nad oedd gwahardd maglau yn gynnig a nodwyd yn yr ymgynghoriad, felly ni ellid cael darlun cyflawn o farn pobl ar wahardd maglau, naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol, trwy’r ymgynghoriad hwn.

Ni fu unrhyw reoleiddio pellach ar ddefnyddio maglau ers ymgynghoriad 2017.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Yn 2016/17 cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad i’r defnydd o faglau. Ym mis Mehefin 2017 cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad ar ddefnyddio maglau yng Nghymru’. Daeth i’r casgliad a ganlyn:

Mae’r ymchwiliad hwn wedi dangos i ni fod bylchau sylweddol yn y data sydd ar gael er mwyn deall i ba raddau y defnyddir maglau yng Nghymru, pa mor effeithiol ydynt ac a ydynt yn rheoli plâu heb fod yn greulon.

Rydym wedi nodi argymhellion sy’n ceisio creu fframwaith ar gyfer casglu’r data gofynnol ac i ddefnyddio’r data hyn wrth adolygu’r polisi cyfredol.

Os gellir dangos drwy’r data bod y dull hwn yn effeithiol a dangos nad yw’n greulon, yna rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu ei dull yn rheolaidd. Os na, yna mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall weithredu’n gyflym. […] Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru baratoi deddfwriaeth ddrafft yn awr i sicrhau ei bod mewn sefyllfa i weithredu ar unwaith pe bai ymdrechion cyfunol y Llywodraeth, y diwydiant a thirfeddianwyr yn methu â chyflawni uchelgeisiau’r Cod.

Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad blynyddol o god 2015 a chyhoeddi adroddiad ar yr adolygiad hwnnw. Fel y trafodwyd, cafodd adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar god ymarfer 2015 ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2019.

Ystyriodd Pwyllgor Deisebau’r Pumed Senedd Deiseb P-05-1026 - i wahardd maglu bywyd gwyllt i'w defnyddio yn y fasnach ffwr. Yn sgil bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Amaethyddiaeth yn ystod y Chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd cyn etholiadau Senedd 2021.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.